Telerau ac Amodau Defnydd

 
Designed by
Creative Design,
Rhondda Cynon Taf

Rhedwyr Dirgel
Bob blwyddyn bydd un o enwogion maes chwaraeon, y mae ei enw’n gyfrinach tan y noson, yn rhoi torch o flodau ar fedd Guto Nyth Brân. Wedi gwneud hynny, bydd yn rhedeg i Aberpennar gan gario ffagl gydag athletwyr lleol yn osgordd iddo.  Mae nifer o gymeriadau mwyaf enwog byd chwaraeon wedi cael yr anrhydedd yma dros y blynyddoedd – Anne Packer (Brightwell), Ron Jones, Lilian Board, David Hemery, David Bedford, Steve Jones a Kirsty Wade.

Ar ôl cyrraedd y dref, mae’r ffagl yn cael ei defnyddio i gynnau Coelcerth Nos Galan, i ddynodi dechrau’r rasys ar gyfer oedolion.

Rhedwyr Dirgel y goffennol

2007
Kevin Morgan

Mae Kevin, gafodd ei eni ym Mhontypridd, yn chwarae dros ranbarth Dreigiau Casnewydd Gwent.  Mae’n gefnwr talentog ac mae ganddo lawer o brofiad o chwarae yng ngemau rygbi rhyngwladol.

Ar ddechrau’i yrfa, roedd yn chwarae i Bontypridd wedyn ym 1998, ymunodd ag Abertawe.

Yn ystod adeg ffurfio’r timau rhanbarthol yn 2003, ymunodd Kevin â’r Rhyfelwyr Celtaidd, cyn symud i dîm Dreigiau Casnewydd Gwent yn 2004.

Mae anafiadau wedi amharu’n fawr ar ei yrfa, er ei fod e’n ddigon galluog a phenderfynol i ddal ati.  Enillodd ei le yng ngharfan Cymru yn ôl ym mis Medi 2006.

Roedd Kevin yn gapten ar gyfer tymor 2006/07 ac mae e’n parhau i arwain y tîm ar y maes ac oddi arno.

2006
Rhys Williams
Daeth buddugoliaeth gyntaf Rhys ym Mhencampwriaethau Ysgolion Cymru ym 1999.  O hynny, aeth e ymlaen i fod yn Bencampwr Ewrop dan 17, 20 a 23 oed.

Ar ôl iddo ennill 2 fedal aur ym Mhencampwriaeth Ewrop dan 23 oed yn Erfurt, yr Almaen yn 2005, dyma Rhys yn cynrychioli Prydain ar y lefel h?n am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yn Helsinki, y Ffindir, gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol, a thynnu’n gyfartal â’i amser gorau ddwywaith.

Yn Göteborg, fe gipiodd Rhys y fedal efydd - o un canfed eiliad, gan guro enillydd y fedal efydd yng Ngemau’r Olympaidd.

Daeth ail fedal Rhys yn y pencampwriaethau yn y ras gyfnewid 4x400m – medal arian y tro yma.  Yn sgil hynny, Rhys oedd athletwr mwyaf llwyddiannus Prydain yn Sweden.

2005
Gethin Jenkins, Martyn Williams, Rhys Thomas
Ar ôl bron i 30 mlynedd o aros, 2005 oedd blwyddyn tîm rygbi Cymru ac fe enillon ni Gamp Lawn RBS! Ein Rhedwyr Dirgel oedd chwaraewyr Gleision Caerdydd, Rhys Thomas, Gethin Jenkins a Chwaraewr Pencampwriaeth RBS 2005, Martyn Williams.

2004
Nicole Cooke
Ar ôl ennill bron i bob teitl ieuenctid ym Mhrydain yn y gamp ac ailysgrifennu llyfrau goreuon y byd beicio gan ennill pedwar teitl iau mewn blwyddyn, mae Nicole wedi mynd o nerth i nerth.  Yn ei blwyddyn gyntaf o gystadlu ar y lefel H?n, enillodd y Fedal Aur yn y Ras Ffordd yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2002, ac mae hi’n 5ed ymhlith detholion y byd ar hyn o bryd.
2003
Stephen Jones
Chwaraewr rhyngwladol sydd wedi ennill 35 o gapiau a sgorio’r trydydd nifer mwyaf o bwyntiau dros ei wlad. Yn ogystal â hynny, mae e wedi ennill ar bob safon rygbi clybiau – y Gynghrair Geltaidd, Cynghrair Cymru a Chwpan Cymru. Ymunodd â’r clwb Ffrengig Montferrand yn haf 2004, gan adael ei glwb cartref, Sgarlets Llanelli.
2002
Matt Elias
Enillydd y fedal arian yn ras 400m dros y clwydi yng Ngêmau’r Gymanwlad, Manceinion 2002. Y fedal arian yn ras 4x400 yn yr un bencampwriaeth.
2001
Darren Campbell
Aelod o’r pedwarawd enillodd y fedal aur yn ras gyfnewid 4 x 100 medr yng Ngemau’r Gymanwlad, Manceinion. Enillydd y fedal efydd 200m yn yr un bencampwriaeth, a medal efydd am y 100m ym Mhencampwriaethau Ewrop.
2000
Christian Malcolm
Pencampwr Ieuenctid y Byd 100 metr a 200 metr; Pencampwr Ewrop 200 metr Dan Do; enillydd y fedal arian 200m yng Ngemau’r Gymanwlad.

1999
Garin Jenkins & Dai Young

Garin Jenkins
Y Bachwr ac aelod o reng flaen Cymru sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros ei wlad. Chwaraeodd yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd dair gwaith – 1991, 1995, 1999.

Dai Young
capten presennol tîm rygbi Cymru. Enillodd dros 40 o gapiau dros Gymru. Teithiodd 2 waith gyda’r Llewod a chwaraeodd mewn dwy gystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd (undeb) ac unwaith yng Nghwpan Rygbi’r Byd rygbi’r gynghrair.

Jamie Baulch
enillydd Medal Aur ym Mhencampwriaethau Ewrop, Medal Arian yng Ngemau Cwpan y Byd a Medal Efyddyn Ngemau’r Gymanwlad yn y ras gyfnewid 4x400m.
1998

Ron Jones
Cyn-gapten Tîm Cymru a Thîm Prydain. Enillydd Medal Efydd yng ngemau’r Gymanwlad ac Ewrop. Aelod o dîm ras gyfnewid 4x110 llath Prydain a dorrodd record y byd.
1997
Iwan Thomas
Rhedwr cyflymaf Prydain dros 400m, Pencampwr Ewrop a’r Gymanwlad dros 400m.
1996
Robbie Reagan
Cyn Bencampwr Pwysau Bantam y Byd (WBO)
1995
Neil Jenkins
Prif sgoriwr pwyntiau dros dîm rygbi Cymru. Cyn-gefnwr y Llewod a maswr i’r Barbariaid
1994
Steve Robinson
Cyn-bencampwr Pwysau Plu y byd (WBO)

Lluniau gan Dylunio Creadigol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Lluniau ychwanegol drwy garedigwrydd Mountain Ash Studios.