|
Llety
Beth am aros ychydig o ddyddiau yn rhagor yn yr ardal os ydych chi’n cymryd rhan yn rasys Nos Galan?
Mae dewis gwych o ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf ichi aros ynddyn nhw gan gynnwys Cwm Cynon, sy ar drothwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’i olygfeydd godidog; Cwm Rhondda, sy wedi’i rannu’n ddau gan afonydd y Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach ac sy’n drwch o hanes y chwyldro diwydiannol; a Thaf Elái yn ne’r sir a’i bentrefi hanesyddol sydd ddim ond 10 milltir o Gaerdydd, prifddinas Cymru.
Gwasgwch y cyswllt isod i chwilio Llety yn Rhondda Cynon Taf.
www.visitrct.co.uk
www.southernwales.co.uk
Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i rywle i aros yn Rhondda Cynon Taf, rhowch gynnig ar y cymoedd cyfagos, ewch i: www.wisdomandwalks.co.uk
|