Telerau ac Amodau Defnydd

 
Designed by
Creative Design,
Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ymdrechu i wneud y wefan hon mor gywir a dibynadwy ag y bo modd.

Er hyn, dydy’r Cyngor ddim yn gwneud unrhyw sylwadau am gywirdeb, dibynadwyedd, cyflawnder nac addasrwydd yr wybodaeth, nwyddau, gwasanaethau, a graffigau perthynol sydd wedi’u cynnwys yn y wefan yma at unrhyw ddiben. Fydd CBS Rhondda Cynon Taf, ei weithwyr, ei gyflenwyr, nac ychwaith unrhyw bartïon eraill sy’n ymwneud â chreu â chyflwyno’r wefan hon yn atebol am unrhyw iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, cysylltiedig, arbennig neu ganlyniadol, colled neu anghyfleustra a achoswyd drwy ymddiried yng nghynnwys y wefan yma neu sy’n tarddu o ddefnyddio’r wefan hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynnig hawl i gyrchu a defnyddio’r wefan hon yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau a ganlyn:

  1. O ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n derbyn y telerau ac amodau yma sy’n weithredol o’r dyddiad cyntaf ichi ddefnyddio’r wefan. Mae CBS Rhondda Cynon Taf yn cadw’r hawl i newid y telerau a’r amodau yma ar unrhyw adeg drwy bostio unrhyw newidiadau ar-lein. Drwy ddefnyddio’r wefan yma yn barhaus ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu postio rydych chi’n derbyn y telerau ac amodau diwygiedig.
  2. Mae hawl gyda chi i ddefnyddio’r wefan yma at eich defnydd personol eich hun. Chwech chi ddim copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, islwytho, postio, darlledu na throsglwyddo deunyddiau mewn unrhyw ffordd ac eithrio at eich defnydd personol ac anfasnachol cartref eich hun. Os am wneud unrhyw ddefnydd arall, rhaid cael caniatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw.
  3. Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r wefan at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn dull nad yw’n torri ar hawliau, nac yn cyfyngu ar - neu’n atal - unrhyw drydydd parti rhag defnyddio a mwynhau’r wefan hon, neu beri  annifyrrwch, anghyfleustra, neu bryder diangen i unrhyw drydydd parti. Mae cyfyngu neu atal o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, difenwol, difrïol, neu a allai aflonyddu ar unrhyw berson, neu beri gofid, anghyfleustra, niwsans neu’i fygwth, a hefyd drosglwyddo cynnwys anweddus, bygythiol neu sarhaus neu ymyrryd â llif arferol deialog o fewn y wefan hon.
  4. Mae’r wefan hon yn cynnwys cysylltau â gwefannau eraill, sydd ddim o reidrwydd yn cael eu gweithredu gan y Cyngor. Dydy’r Cyngor ddim yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, a dydy e ddim yn derbyn unrhyw atebolrwydd a allai darddu mewn perthynas â defnyddio gwefannau o’r fath.
  5. Mae’r Cyngor yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wybodaeth a deunydd ar y wefan hon yn union ac yn gywir, ond nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd am wallau neu ddiffygion. Nid yw’r Cyngor yn gwarantu chwaith y bydd defnydd y wefan yma yn ddi-dor. Mae’r Cyngor yn darparu’r deunydd a gyhoeddir ar ei wefan ar y sail ei fod yn ymwadu â phob gwarantiad mewn perthynas â deunydd o’r fath, boed yn bendant neu’n oblygedig. Nid yw’r Cyngor, ei weithwyr, ei gyflenwyr, na darparwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled busnes, derbyniadau, neu elwon, neu iawndal arbennig, boed yn uniongyrchol, anuniongyrchol, cysylltiedig neu ganlyniadol, yn tarddu o gyhoeddi’r deunydd ar y wefan hon neu o ddefnydd o’r wefan hon.
  6. Rydych chi’n cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint a hawliau cronfa ddata, yng ngwefan y Cyngor a’i gynnwys yn eiddo i’r Cyngor neu wedi’u trwyddedu i’r Cyngor a ddefnyddir fel arall gan y Cyngor fel y caniateir gan y gyfraith gymwysadwy.
  7. Mae gan y Cyngor hawl i olygu, gwrthod ychwanegu at, neu dynnu unrhyw ddeunydd sy’n cael ei gyflwyno neu’i ychwanegu at y wefan hon. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol, ac nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw atebolrwydd am, unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ychwanegu at y wefan heblaw gan y Cyngor. Eiddo’r trydydd partïon o dan sylw yw unrhyw farnau, cyngor, datganiadau, neu wybodaeth arall a fynegir neu y trefnir eu bod ar gael ar wefan y Cyngor. Nid yw’r Cyngor yn cymeradwyo, ac nid yw’n gyfrifol am, gywirdeb na chywirdeb unrhyw ddeunydd o’r fath gan drydydd partïon.
  8. Cyfreithiau Cymru a Lloegr sy’n llywodraethu’r telerau ac amodau yma. Bydd unrhyw anghydfod sy’n tarddu o’r telerau ac amodau yma yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.
  9. Os teimlwch chi fod rhywbeth ar y wefan yma yn achos pryder i chi, rhowch wybod inni.
  10. Os ydych chi’n anfodlon ar unrhyw ran o’r wefan yma, neu unrhyw un o’r telerau ac amodau yma, rhowch y gorau i ddefnyddio’r wefan ar unwaith.
  11. Os dyfernir bod unrhyw un o’r telerau yma yn anghyfreithlon, yn annilys, neu’n anorfodadwy fel arall,  yna i’r graddau ei fod yn anghyfreithlon, yn annilys, neu’n anorfodadwy fel arall fe gaiff ei dynnu a’i ddileu o’r cymal hwn a bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn goroesi, yn dal mewn grym ac effaith lawn, a pharhau i fod yn rhwymol ac yn orfodadwy.