Telerau ac Amodau Defnydd
 
 
Designed by
Creative Design,
Rhondda Cynon Taf

Cyflwyniad

Mae rasys enwog Nos Galan yn cofio’r rhedwr o Gymro, Guto Nyth Brân a’i  medrau athletaidd chwedlonol. Ymhlith y straeon amdano mae sut y gallai ddal aderyn yn hedfan ac, ar un achlysur, yr hanes amdano’n rhedeg i Bontypridd ac yn ôl – rhyw 7 milltir o daith – cyn i’r tegell ferwi. Buodd e’n cystadlu mewn llawer ras yn ystod ei fywyd byr a herio sawl un; ond llai a llai o gystadleuwyr a gâi gan ei fod e’n ennill bob tro. Pan oedd yn 37 oed cafodd her i redeg yn erbyn y ‘Prince’ o Fedwas i redeg y 12 milltir rhwng Casnewydd ac Eglwys Bedwas, ger Caerffili. Enillodd e’r ras yn hawdd ond bu’r curo cefn a ddilynodd ei lwyddiant yn ormod iddo fe a buodd e farw ym mreichiau’i gariad, Siân o’r Siop.  Cludwyd ei gorff i’w orffwysfa olaf, ym mynwent Eglwys Llanwynno, ger Aberpennar.

Mae’r rasys presennol yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer pop oedran a safon. I fod yn rhan o’r achlysur unigryw yma ac i gael  Noswyl Nadolig dra gwahanol, cliciwch yma i godi ffurflen ymrestru.